Bydd ZERO WASTE ACTION yn ceisio cefnogi prosiectau sy’n:
- Treialu dulliau newydd neu arloesol o reoli gwastraff, casglu, trin, cludo neu ail-brosesu deunydd i’w hailgylchu;
- Cynnig datblygiadau newydd gweithredol a datblygu modelau newydd o arfer da;
- Ceisio adennill y gwerth neu’r ynni o wastraff neu nwyddau neu eitemau a gafodd eu taflu;
- Cynnwys creu neu ehangu mentrau ar gyfer datblygu prosiectau ar y cyd, rhyngfasnachu, tarddu neu ddosbarthu’n lleol;
- Ysgogi creu a chadw swyddi, yn arbennig o fewn grwpiau sydd o dan anfantais ddaearyddol neu ddemograffig;
- Dangos ymrwymiad at ymchwil a datblygu fel rhan o weithgareddau gweithredol ehangach.
Dyma rai enghreifftiau o’r math o brosiectau fyddai’n gymwys am gymorth gyda’r grant hwn:-
- Astudiaethau prosiect, yn arbennig ar gyfer busnesau teuluol ar ffermydd bychain a’r rhai sy’n cychwyn busnes.
- Prosiectau sy’n gwneud defnydd llawn o TGCh
- Prosiectau sy’n hybu rhwydweithio a chydweithio.
- Mentrau marchnata ar y cyd
- Prosiectau sy’n arwain at leihau anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi ac allyriadau, yn arbennig methane.
- Prosiectau sy’n ychwanegu gwerth at ddeunyddiau sydd wedi’u hailgylchu.
Ymgeiswyr am y Prosiect
Unigolion, busnesau a grwpiau gwirfoddol/cymunedol a mentrau cymdeithasol hyd at faint micro-fentrau (hyd at 10 o weithwyr)
Cyllideb y Prosiect
Cyfanswm y grant fydd ar gael yw £400,000 a bydd £150k ar gael ar gyfer refeniw, a £250k ar gyfer eitemau cyfalaf hyd at gyfanswm o 80% o werth y prosiect. Bydd yr 20% sy’n weddill yn dod o gyfraniadau mewn nwyddau a/neu nawdd cyfatebol.
Sut i ymgeisio
Am ffurflen gais a chyfarwyddiadau, cysylltwch â’r Swyddfa hon. Rhaid gorffen y prosiectau erbyn 31 Rhagfyr 2010.

- Cyflenwr y Prosiect: Powys Zero Waste Ltd
- Cyfeiriad: 42, Broad Street, , Welshpool, Powys, SY21 9PW
- Cyfeiriad Ebost: shane@powyszerowaste.org.uk
- Rhif Ffôn: 01938 555925
- Gwefan: http://www.powyszerowaste.co.uk/


