Ydych chi'n fusnes bach sy'n ymwneud a'r sector Adnewyddadwy ym Mhowys?
Bydd y prosiect yn cefnogi busnesau micro a busnesau newydd sy’n dechrau o’r dechrau ym Mhowys drwy
- sicrhau mynediad at y cyngor a’r arbenigedd diweddaraf
- cyllido swyddogion proffesiynol yn y sector ynni adnewyddadwy i fynychu arddangosfeydd, seminarau a gweithdai perthnasol
- hwyluso trosglwyddo technoleg rhwng Powys a gwledydd ar dir mawr Ewrop
- darparu astudiaethau achos i alluogi i wybodaeth a materion technegol gael eu trosglwyddo i gymunedau a busnesau ac unigolion eraill
- trefnu a chynnal ymweliadau i weld prosiectau enghreifftiol
- sefydlu a hyrwyddo gwasanaeth cymorth a gwybodaeth ar draws Powys i gynyddu ymwybyddiaeth o dechnolegau ynni adnewyddadwy newydd. Bydd hyn yn cynnwys cyfeirio pobl at gyngor ymarferol penodol ynghylch agweddau manwl o osod technoleg adnewyddadwy fel agweddau cyfreithiol a chynllunio.
Yr hyn sy’n allweddol drwy gydol y prosiect yw cynyddu ymwybyddiaeth, hyder a galw ymysg y defnyddwyr posibl am dechnolegau adnewyddadwy, gyda’r nod o gefnogi’r economi leol drwy ddarparu cyfleoedd gwaith pellach mewn busnesau micro neu drwy hunan-gyflogaeth yn y sector ynni adnewyddadwy.
Ymgeiswyr am y Prosiect
Gall ymgeiswyr am y prosiect fod yn unigolion, busnesau a grwpiau gwirfoddol / cymunedol a mentrau cymdeithasol hyd at raddfa mentrau micro (hyd at 10 o weithwyr). Yn fwy penodol darparu cymorth a hyrwyddo syniadau ar gyfer prosiectau fel:
- Busnesau bychain neu’r hunan-gyflogedig sy’n dymuno ennill neu ehangu eu gwybodaeth am ddyfeisiadau arbed ynni, technolegau adnewyddadwy a thechnegau cynaliadwy
- Unigolion sy’n dymuno hyrwyddo eu dealltwriaeth o ddatblygiadau newydd a rhai sy’n ymddangos mewn ynni adnewyddadwy.
- Prosiectau sy’n edrych ar ysgogi galw am dechnolegau adnewyddadwy fel cydweithredu gyda chymunedau i hyrwyddo neu gynyddu ymwybyddiaeth am faterion gwyrdd.
Cyllideb y Prosiect
Cyllideb y prosiect £53,000 (£38,213 fel arian parod; £14,787 fel arian cyfatebol).
Felly bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu / rhoi cyfran o arian cyfatebol hyd at gyfran o gyfanswm costau’r prosiect. Penderfynir ar lefelau’r cyfraniadau o arian cyfatebol ar sail unigol, ond fel arfer byddant oddeutu 30%. Gall cyfraniadau arian cyfatebol fod fel arian parod neu fel cyfraniad mewn da o adnoddau eraill buddiolwyr (e.e. amser gwirfoddolwyr). Ond rhaid i gyfanswm costau’r prosiect gael ei gefnogi’n llawn gan dystiolaeth gydnabyddedig (derbynebau, amserlenni ac ati).
Sut i ymgeisio
- Ymholiad dechreuol a thrafodaeth rhwng yr ymgeisydd a’r swyddog prosiect;
- Cwblhau a chyflwyno argymhelliad /ffurflen gais y prosiect gan yr ymgeisydd;
- Asesiad rhagarweiniol o’r cais gan y Swyddog Prosiect/Rheolwr Glasu;
- Y prosiect yn cael ei gyflwyno i a’i asesu gan Grŵp Gweithredu Lleol Glasu (y bwrdd llywodraethu) yn chwarterol yn dechrau yn Rhagfyr 08
- Cyflenwr y Prosiect: Glasu
- Cyfeiriad: Unit 9 Antur Gwy, Park Road, Builth Wells, Powys, LD2 3BA
- Laura Shewring
- Cyfeiriad Ebost: laura.shewring@powys.gov.uk
- Rhif Ffôn: 01982 552224
- Gwefan: http://www.glasu.org.uk/






