English
Chwillo

Cefnogi prosiectau a mentrau twristiaeth ym Mhowys sy’n canolbwyntio ar

  • Wella a hyrwyddo bioamrywiaeth;
  • Lliniaru ac addasu i newid hinsawdd.

Rhoi cefnogaeth i syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau a luniwyd ar gyfer twristiaeth drwy gydgysylltu, a sicrhau cyllid ar gyfer:

  • Ymchwil i asesu ymarferoldeb syniadau newydd.
  • Datblygu syniadau newydd yn ymarferol.
  • Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
  • Marchnata
  • Cydweithredu
  • Costau seilwaith ar gyfer nifer cyfyngedig o fusnesau enghreifftiol.

Ymgeiswyr am y Prosiect

Unigolion, busnesau a grwpiau gwirfoddol / cymunedol a mentrau cymdeithasol hyd at raddfa mentrau micro (hyd at 10 o weithwyr). Yn fwy penodol darparu cymorth a hyrwyddo prosiectau twristiaeth a busnesau cynaliadwy gan gynnwys:

  • Darparwyr llety, lleoliadau a mentrau eraill sy’n anelu at fod yn wyrdd a darparu ar gyfer twristiaid gwyrdd
  • Busnesau a phrosiectau sy’n gwella mynediad i fywyd gwyllt i dwristiaid
  • Prosiectau sy’n defnyddio llwybrau (ar droed, beic, ceffyl, cwch, trên ac ati) sy’n cysylltu llety gwyrdd, safleoedd bywyd gwyllt a lleoliadau gwyrdd eraill (e.e. safleoedd ynni adnewyddadwy) i dwristiaid

Cyllideb y Prosiect

Cyllideb y prosiect £107,555 (£79,227 fel arian parod; £28,328 fel arian cyfatebol).

Felly bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu / rhoi cyfran o arian cyfatebol hyd at gyfran o gyfanswm costau’r prosiect. Penderfynir ar lefelau’r cyfraniadau o arian cyfatebol ar sail unigol, ond fel arfer byddant oddeutu 26%. Gall cyfraniadau arian cyfatebol fod fel arian parod neu fel cyfraniad mewn da o adnoddau eraill buddiolwyr (e.e. amser gwirfoddolwyr). Ond rhaid i gyfanswm costau’r prosiect gael ei gefnogi’n llawn gan dystiolaeth gydnabyddedig (derbynebau, amserlenni ac ati).

Sut i ymgeisio

  1. Ymholiad dechreuol a thrafodaeth rhwng yr ymgeisydd a’r swyddog prosiect;
  2. Cwblhau a chyflwyno argymhelliad /ffurflen gais y prosiect gan yr ymgeisydd;
  3. Asesiad rhagarweiniol o’r cais gan y Swyddog Prosiect/Rheolwr Glasu;
  4. Y prosiect yn cael ei gyflwyno i a’i asesu gan Grŵp Gweithredu Lleol Glasu (y bwrdd llywodraethu) yn chwarterol yn dechrau yn Rhagfyr 08
 
©2010 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Cyngor Sir Powys County CouncilEU and Welsh Assembly Government Funded