Gellir ystyried y wefan gerdded fel adnodd i ymwelwyr, cymunedau lleol a thrigolion unigol. Ar gyfer cerddwyr lleol awyddus, mae’n cynnig cyfle i ystyried amrywiaeth o lwybrau tu allan i’r gymuned gyfagos mewn ardaloedd cyfagos, gyda rhai o fewn cyrraedd trwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae’r amrywiaeth o lwybrau cerdded ar y wefan hefyd yn awgrymu llwybrau sy’n addas i ddefnyddwyr anabl, yr henoed neu deuluoedd gyda chadeiriau gwthio, a llwybrau sy’n addas i gwn. Byddai’r cyfan o ddiddordeb i drigolion lleol yn ogystal ag ymwelwyr.
Lansiwyd cam cyntaf y prosiect ym mis Mai 2007 a chafodd dderbyniad da. Roedd galw mawr ar i’r prosiect gael ei ehangu i gynnwys Gogledd a Chanol Powys, a gyda nawdd y Cynllun Datblygu Gwledig, bydd y prosiect yn ehangu’r ardal ddaearyddol i elwa busnesau a chymunedau ledled yr ardal.
Bydd Swyddog Prosiect Twristiaeth yn cydlynu elfen datblygu gwefan ‘Leaping Stiles’, a rôl y swyddog hwnnw fydd gweithio gyda chymunedau i nodi llwybrau addas, cysylltu â chydweithwyr yn Adran Gwasanaethau Cefn gwlad Powys, trefnu mapio’r llwybrau a’r prosesau graddio, rheoli cytundeb datblygu’r wefan, ffurfio a gweithredu cynllun marchnata i wefan ‘Leaping Stiles’ a gweithgareddau awyr agored ehangach ym Mhowys.
Bydd y rhan o’r prosiect hwn sy’n ymwneud â llwybrau cerdded cylchol yn enwi mân aneddiadau sydd heb unrhyw fwynderau hamdden awyr agored. Bydd y prosiect yn creu 12 o lwybrau cerdded cylchol lleol trwy Bowys, yn seiliedig ar gymunedau gwledig bychain, gan roi cyfle hamdden i drigolion ac ymwelwyr mewn ardaloedd sy’n annhebygol o gael cyfleusterau o’r fath. O ganlyniad, bydd y prosiect yn hybu ymarfer corff, lles a mynediad i gefn gwlad lleol heb orfod teithio’n bell.
Ymgeiswyr am y Prosiect
Bydd Prosiect Cerdded ‘Leaping Stiles’ yn cefnogi busnesau lleol, cymunedau a’r economi leol trwy dynnu sylw at yr amrywiaeth o lwybrau cerdded sydd ar gael ym Mhowys, a thargedu ymgyrch farchnata a fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r ardal. Mae manteision economaidd sylweddol i gymunedau gwledig a busnesau bach trwy wella’r profiad i ymwelwyr. Bydd yn annog ymweliadau cyson a rheolaidd gan gwsmeriaid ffyddlon.
Cyllideb y Prosiect
Cyfanswm cyllideb y prosiect yw £276,500.
Mae hyn yn cynnwys costau staffio, datblygu seilwaith y llwybrau, graddio a mapio’r teithiau cerdded, datblygu gwefan, hyrwyddo, marchnata a chynnig hyfforddiant cynnal a chadw sylfaenol i wirfoddolwyr lleol.
Sut i ymgeisio
Os ydych chi’n gwybod am lwybrau cerdded cylchol o ansawdd uchel yn eich cymuned chi, ac yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â’r Swyddog Prosiect Twristiaeth.r.

- Cyflenwr y Prosiect: Powys County Council Tourism Services
- Cyfeiriad: Autopalace, Fiveways, Llandrindod Wells, Powys, LD1 5HU
- Cyfeiriad Ebost: samantha.bibb@powys.gov.uk
- Rhif Ffôn: 01597 826690
- Gwefan: www.powys.gov.uk






