Bydd y prosiect hwn yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau ym Mhowys ac yn rhoi cymorth hanfodol iddynt, cyfleoedd i rwydweithio a chyllid a fydd yn caniatáu iddynt gael y gorau allan o’u digwyddiad o ran y rhai sy’n arddangos ac ymwelwyr. Darperir cymorth yn y ffyrdd canlynol:
- Rhwydweithio – adnodd ar-lein a fydd yn caniatáu i grwpiau drafod a rhannu enghreifftiau o arfer gorau, lawrlwytho rhestrau o gyflenwyr lleol gwasanaethau technegol, arddangoswyr a chymorth, cysylltu â swyddogion perthnasol yn yr Awdurdod Lleol, lawrlwytho ffurflenni cais am gyllid a lawrlwytho templadau perthnasol e.e. asesiadau risg.
- Cyllid – Drwy Gronfa Fenter – bydd trefnwyr digwyddiadau yn gallu cyrchu at gyllid i ddatblygu ffyrdd newydd o farchnata, hyrwyddo a chefnogi eu digwyddiad.
- Creu adnoddau a throsglwyddo gwybodaeth – cynigir cyfres o seminarau i grwpiau ar bynciau fel marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, trwyddedu, rhestrau gwirio digwyddiadau a pharatoi bwyd. Ni fydd y sesiynau hyn yn ddigwyddiadau hyfforddi, ond byddant yn rhoi cyfleoedd i drefnwyr digwyddiadau rannu arfer gorau o ran datblygu a rheoli digwyddiadau i sicrhau bod digwyddiadau a gwyliau a gynhelir ar draws Powys yn gwneud y gorau o’u potensial economaidd
Anogir grwpiau a gefnogir gan y prosiect i edrych ar effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eu menter er budd yr economi ehangach a chynaliadwyedd y sir.
Ymgeiswyr am y Prosiect
- Grwpiau Cymunedol
- Busnesau micro
- Unigolion
- Ysgolion
Cyllideb y Prosiect
Cyllideb y Prosiect: £129,193 (£108,386 fel arian parod; £20,807 fel arian cyfatebol).
Bydd y Gronfa Fenter yn darparu cyllid o hyd at 70% neu £5,000 o gostau’r prosiect. Costau y gellir talu amdanynt o dan y gronfa yw gweithgareddau marchnata a hyrwyddo, hurio lleoliadau, ymchwil a chostau sefydliadol.
Sut i ymgeisio
- Ymholiad dechreuol a thrafodaeth rhwng yr ymgeisydd a’r swyddog prosiect;
- Cwblhau a chyflwyno argymhelliad y prosiect/ffurflen gais gan yr ymgeisydd;
- Asesiad rhagarweiniol o’r cais gan Banel Gwyliau a Digwyddiadau Powys;
- Bydd Panel Gwyliau a Digwyddiadau Powys yn asesu ceisiadau yn rheolaidd yn ystod y prosiect.
- Cyflenwr y Prosiect: Glasu
- Cyfeiriad: Unit 9 Antur Gwy, Park Road, Builth Wells, Powys, LD2 3BA
- Cyfeiriad Ebost: rebeccaw@powys.gov.uk
- Rhif Ffôn: 01982 552224
- Gwefan: http://www.glasu.org.uk/






