Bydd Dyfodol Carbon Isel yn cefnogi cymunedau a busnesau Powys wrth ddatblygu syniadau yn y meysydd canlynol:
- Cefnogi mesurau i wella ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni yn Powys.
- Cefnogaeth i annog mentrau Pontio Trefi a chynlluniau addasu ar gyfer newid yn hinsawdd yn nhrefi a chymunedau Powys.
- Ôl-troed carbon – rhoi cyfle i ficro-fentrau lleol mabwysiadu dewisiadau arbed ynni.
- ‘Newydd o’r Hen’ – adnabod agweddau a dulliau newydd ac arloesol ar gyfer ailgylchu mentrau.
- Atebion ynni arloesol ac atebion gwastraff arloesol.
Ymgeiswyr am y Prosiect
Gall ceisiadau i’r prosiect fod gan unigolion, busnesau a grwpiau gwirfoddol / cymunedol a mentrau cymdeithasol ar raddfa micro-fentrau (hyd at 10 o weithwyr).
Cyllideb y Prosiect
Cyllideb y prosiect Ł158,000 (Ł122,832 fel arian; Ł35,168 nawdd cyfatebol gan y derbynnydd).
O ganlyniad, bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu / cael nawdd cyfatebol ar gyfer cyfran o gyfanswm costau’r prosiect. Pennir union lefelau cyfraniadau’r nawdd cyfatebol ar sail unigol, ond fel arfer bydd tua 30%. Gall cyfraniadau’r nawdd cyfatebol fod fel arian neu fel cyfraniad mewn nwyddau o adnoddau eraill buddiolwyr (e.e. amser gwirfoddolwyr). Fodd bynnag rhaid cael tystiolaeth gadarn i ategu cyfanswm costau’r prosiect (derbynebau, taflenni amser ayb)
Sut i ymgeisio
- Cais cyntaf a thrafodaeth rhwng yr ymgeisydd a’r swyddog prosiect;
- Llenwi a chyflwyno cynnig y prosiect / ffurflen gais gan yr ymgeisydd;
- Asesiad cychwynnol o’r cais gan swyddog prosiect / rheolwr Glasu;
- Cyflwyno’r cynnig, a’i asesu gan Grŵp Gweithredu Lleol Glasu (bwrdd llywodraethu) yn ystod y cyfarfodydd chwarterol sy’n cychwyn mis Rhagfyr 08.

- Cyflenwr y Prosiect: Glasu
- Cyfeiriad: Unit 9 Antur Gwy, Park Road, Builth Wells, Powys, LD2 3BA
- Cyfeiriad Ebost: susannat@powys.gov.uk
- Rhif Ffôn: 01982 552224
- Gwefan: http://www.glasu.org.uk/


