Bydd y prosiect yn cefnogi:-
- Gweithgareddau sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr a chymunedau lleol ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth leol e.e. sefydlu gwefan neu greu CD Rom yn dweud y stori leol; datblygu llwybr i gefnogi rhwydwaith o adeiladau neu safleoedd o ddiddordeb lleol
- Adeiladau a thirluniau traddodiadol – hyrwyddo gwarchod a chynnal yr amgylchedd naturiol lleol
- Mynediad at gynhyrchion, diwylliant a threftadaeth leol – gallai hyn fod yn gymorth ar gyfer Gild newydd o Grefftwyr Powys neu ymchwilio i a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd o fewn y sector diwylliant, treftadaeth, celf a chrefft gan ddefnyddio cynhyrchion a sgiliau lleol
Ymgeiswyr am y Prosiect
Gall ymgeiswyr am y prosiect fod yn unigolion, busnesau a grwpiau gwirfoddol / cymunedol a mentrau cymdeithasol. Yn arbennig, gall ymgeiswyr fod yn grwpiau newydd neu rai sy’n bodoli’n barod sy’n dymuno hyrwyddo diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau a chynhyrchion a gwasanaethau lleol. Gellid defnyddio cyllid i gyllido ymchwil a datblygiad, deunyddiau hyrwyddo a marchnata, a sefydlu rhwydweithiau a grwpiau.
Cyllideb y Prosiect
Cyllideb y prosiect £160,000 (£124,561 fel arian parod; £35,439 fel arian cyfatebol).
Felly bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu / rhoi cyfran o arian cyfatebol hyd at gyfran o gyfanswm costau’r prosiect. Penderfynir ar lefelau’r cyfraniadau o arian cyfatebol ar sail unigol, ond fel arfer byddant oddeutu 35-40%. Gall cyfraniadau arian cyfatebol fod fel arian parod neu fel cyfraniad mewn da o adnoddau eraill buddiolwyr (e.e. amser gwirfoddolwyr). Ond rhaid i gyfanswm costau’r prosiect gael ei gefnogi’n llawn gan dystiolaeth gydnabyddedig (derbynebau, amserlenni ac ati).
Sut i ymgeisio
- Ymholiad dechreuol a thrafodaeth rhwng yr ymgeisydd a’r swyddog prosiect;
- Cwblhau a chyflwyno argymhelliad /ffurflen gais y prosiect gan yr ymgeisydd;
- Asesiad rhagarweiniol o’r cais gan y Swyddog Prosiect/Rheolwr Glasu;
- Y prosiect yn cael ei gyflwyno i a’i asesu gan Grŵp Gweithredu Lleol Glasu (y bwrdd llywodraethu) yn chwarterol yn dechrau yn Rhagfyr 08.

- Cyflenwr y Prosiect: Glasu
- Cyfeiriad: Unit 9 Antur Gwy, Park Road, Builth Wells, Powys, LD2 3BA
- Hazel James
- Cyfeiriad Ebost: hazel.james@powys.gov.uk
- Rhif Ffôn: 01982 552224
- Gwefan: http://www.glasu.org.uk/


