English
Chwillo

Bydd Cysylltiadau Powys Connections yn helpu microfusnesau a mentrau cymdeithasol i ddatblygu TGCh arbenigol yn eu busnesau. Mae gweithgareddau’r prosiectau’n cynnwys:

  1. Cynnig arolwg busnes TGCh i bob busnes sydd wedi cofrestru ar y prosiect. Bydd ymgynghorydd yn gweithio gyda’r busnes gan gynnig cyngor a chymorth i ehangu’r defnydd o TGCh.
  2. Grant dirprwyedig ar gyfer prynu cymorth arbenigol i gyflwyno mesurau TGCh arbenigol (prynu gan ddarparwyr masnachol)
  3. Sesiynau blasu TGCh wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion gwahanol fentrau Powys. Bydd digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn defnyddio astudiaethau achos i ddangos manteision TGCh arbenigol.

Ymgeiswyr am y Prosiect

Micro-fentrau a mentrau cymdeithasol h.y. sefydliadau gyda hyd at 10 o weithwyr a throsiant llai na £1.4M.

Nid yw’r prosiect yn gallu cefnogi sefydliadau sy’n gweithio’n llwyr yn y sectorau sydd wedi’u heithrio o dan reoliadau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd megis amaethyddiaeth a choedwigaeth. Cysylltwch â Chysylltiadau Powys Connection am gyngor os ydych chi’n ansicr.

Cyllideb y Prosiect

Cyllideb y prosiect £479,826 (£256,712 nawdd gan yr UE a £223,114 nawdd cyfatebol).

Bydd 50% o nawdd grant ar gael (hyd at £1,500) i fusnesau er mwyn prynu cyngor arbenigol, cymorth gweithredu sydd ei angen (byddai’r gwariant cymwys yn arbenigol: cyngor, cymorth, meddalwedd, datblygu gwefan gynhwysfawr ayb). I fod yn gymwys am y grant hwn, rhaid i fusnesau gynnal arolwg a llenwi cais am grant.

Sut i ymgeisio

  1. Ymholiad a sgwrs gychwynnol rhwng yr ymgeisydd a staff y prosiect;
  2. Bydd Ymgynghorydd TGCh yn ymweld â’r busnes a chynnal arolwg TGCh.
  3. Ar ôl derbyn yr arolwg TGCh, gall fusnesau ddewis wneud cais am nawdd grant a chyflwyno’r cais;
  4. Staff/rheolwr y prosiect i wneud asesiad cyntaf o’r cais;
  5. Cyflwyno’r cais i, a’i asesu gan grwp llywio Powys.

Bydd y prosiect yn cymryd ceisiadau am gymorth a nawdd grant ar raglen dreigl tan fis Chwefror 2011.

  • Cyflenwr y Prosiect: Powys County Council Economic and Regeneration Unit
  • Cyfeiriad: Unit 2, Automobile Palace, Temple Street, Llandrindod Wells, Powys, LD1 5HU
  • Cyfeiriad Ebost: ict.adviser@powys.gov.uk
  • Rhif Ffôn: 0870 1923702
  • Gwefan: http://www.powys.gov.uk/
 
©2010 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Cyngor Sir Powys County CouncilEU and Welsh Assembly Government Funded