English
Chwillo

Bwriad y prosiect Adnewyddu Cymunedol yw datblygu cynllun grant dirprwyedig i gefnogi prosiectau sy’n seiliedig ar y gymuned sy’n hyrwyddo amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru - Mesur Adnewyddu Pentrefi. Y bwriad yw rhoi hwb sylweddol i ffyniant yr ardal trwy annog datblygu a gwella cyfleusterau pentrefi a seilwaith cymorth eraill, trwy fuddsoddi ar raddfa fechan.

Trwy weithredu lleol megis cynlluniau gwella bychain, gall grwpiau cymunedol gael effaith weledol ar gymunedau e.e. cynlluniau plannu, adnewyddu nodweddion hanesyddol lleol a chryfhau balchder cymunedol yn yr ardal. Bydd y prosiect yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n cyfrannu at wella cyfleusterau i’r bobl leol a’r economi leol trwy ystyried anghenion a dyheadau cymunedol. Gallai hyn gynnwys:

  • Mân waith cyfalaf i wella mannau megis arosfannau bws, ardaloedd mwynderau ayb.
  • Prosiectau dehongli ac arwyddion.
  • Prosiectau bychain sy’n gwella’r dirwedd a’r amgylchedd naturiol.
  • Astudiaethau dichonoldeb i gyfleusterau newydd.
  • Prosiectau sy’n hybu bioamrywiaeth.
  • Gwella cyfleusterau / asedau cymunedol sy’n cefnogi prosiectau i arallgyfeirio’r economi wledig.
  • Gweithgareddau cymunedol sy’n hyrwyddo datblygu gwasanaethau ar y cyd.
  • Prosiectau celf cymunedol sy’n ychwanegu at naws y lle.
  • Digwyddiadau crefft cymunedol

Ymgeiswyr am y Prosiect

Bydd y grantiau’n benodol ar gyfer grwpiau bychain lleol, gan dargedu’n arbennig merched a phobl ifanc. Bydd grwpiau buddiolwyr eraill yn elwa’n dangiadol, yn cynnwys yr henoed, rhai tangyflogedig, plant, cymunedau sy’n siarad Cymraeg a grwpiau teuluoedd ffermio.

Cyllideb y Prosiect

Cyfanswm cyllideb y prosiect, yn cynnwys nawdd cyfatebol (2 flynedd) £528,886

Cyfanswm y grantiau sydd ar gael £300,000

Uchafswm y grant i bob prosiect £25,000

Nawdd cyfatebol sydd ei angen i bob prosiect (arian neu mewn nwyddau) £8,815

Sut i ymgeisio

Bydd grwpiau’n cael eu gwahodd i lenwi ffurflenni cais llawn i’w cyflwyno i 4 cyfarfod panel asesu chwarterol sy’n cychwyn ym mis Ebrill 2009.

  • Cyflenwr y Prosiect: Powys Association of Voluntary Organisations (PAVO)
  • Cyfeiriad: Marlow, South Crescent, Llandrindod Wells, Powys, LD15DH
  • Claire Sterry
  • Cyfeiriad Ebost: claire.sterry@pavo.org.uk
  • Rhif Ffôn: 01597 822191
  • Gwefan: pavo.org.uk
 
©2010 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Cyngor Sir Powys County CouncilEU and Welsh Assembly Government Funded