English
Chwillo

Cynllun grantiau a mentora yw’r prosiect hwn gyda’r nod o roi help a chymorth i ficro Fasnachwyr ym Mhowys i arddangos eu cynnyrch mewn arddangosfeydd yn y DU. Mae’r Cynllun yn ddelfrydol i gwmnďau sydd â ‘chynnyrch’ i’w ddangos, ac nid dim ond ‘gwasanaeth’. Dyma gyfle gwych i sawl sector diwydiant, yn cynnwys peirianneg, crefftau, bwyd, gwneuthuriad a’r amgylchedd. Bydd cyfle iddynt ddangos beth sydd ganddynt i’w gynnig i gynulleidfa eang, ac yn y pen draw, i gynyddu trosiant trwy’r broses hon.

Y prif amcanion yw gwella sgiliau staff mewn busnesau bychain trwy gyngor a hyfforddiant, a chynnig cymorth ariannol i’w galluogi i fynd i sioeau masnach, ac i’r busnesau hynny i gynyddu trosiant a thyfu economi Powys. Mae ar gyfer ehangu microfusnesau gan roi cyfle i fentora a rhwydweithio.

Dywedodd ein Rheolwr Grwp, Bill Norris:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth newydd hwn. I fusnes bach, mae’r gost o ran amser ac adnoddau i fynd i arddangosfeydd yn gallu danto unrhyw un. Trwy gynnig cyngor arbenigol ar wneud yn fawr o’r buddsoddiad mewn amser, a thrwy helpu gyda rhan fawr o’r gost, mae’r Grant Arddangosfeydd yn ffordd wych o helpu cwmnďau masnachu bychain i dyfu eu busnesau.”

Ymgeiswyr am y Prosiect

Bydd y grantiau’n benodol ar gyfer micro-fentrau a mentrau bach sy’n cyflogi 10 neu lai o bobl. Y nod yw cynnig cyngor a chymorth ariannol i gwmnďau arddangos eu cynnyrch a sicrhau busnes newydd mewn sioeau ac arddangosfeydd masnach priodol. Bydd y prosiect hefyd yn helpu pobl ifanc i gael yr hyder i ddangos eu cynnyrch, yn arbennig pobl ifanc sy’n sefydlu busnesau ac yn arddangos am y tro cyntaf.

Cyllideb y Prosiect

Uchafswm y grant fyddai Ł5,000 y cwmni i bob arddangosfa. Byddai’r grant yn 70% o hwn, gyda’r cwmni sy’n elwa yn talu 30%. Amcangyfrifir y costau ar adeg cyflwyno’r cais, ond bydd y swm sy’n cael ei dalu yn ystyried y costau go iawn, a fydd yn cael eu cymharu â derbynebau/anfonebau gwreiddiol.

Sut i ymgeisio

Gall gwmniau wneud cais am grantiau’n uniongyrchol, neu’n dilyn gweithdy. Byddant yn cael eu hasesu ar ba mor gymwys fel micro-fenter (10 aelod staff neu lai), os ydynt yn gwmni o Bowys, a’u bod am ddangos mewn arddangosfa yn y DU. Gallant gyflwyno achos busnes i ddangos posibilrwydd o incwm sy’n fwy na chost yr arddangosfa. Byddai grŵp llywio’r prosiect wedyn yn llunio adroddiad ac yn ei werthuso. Gwahoddir ceisiadau gan bob micro-gwmni cynhyrchu, nid dim ond aelodau o Grŵp Cynhyrchu Canolbarth Cymru. Bydd staff cyflwyno’r prosiect yn helpu’r cwmni i lenwi’r ffurflen gais. Bydd y grant yn cael ei gyfyngu i’r arddangosfa benodol honno.

Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau fydd 31 Rhagfyr 2010 fan bellaf.

  • Cyflenwr y Prosiect: Mid Wales Manufacturing Group
  • Cyfeiriad: Unit 7 St Giles, , Newtown, Powys, SY16 3AJ
  • Cyfeiriad Ebost: info@mwmg.org
  • Rhif Ffôn: 01686 628778
  • Gwefan: http://www.mwmg.org/
 
©2010 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Cyngor Sir Powys County CouncilEU and Welsh Assembly Government Funded