Mae’r Cynllun Croeso Cymuned yn gynllun grant dirprwyedig i gefnogi prosiectau datblygu twristiaeth bychain ar lefel gymunedol. Byddai’r grant yn cynnig hyd at 80% o’r costau cymwys ac yn agored i Gynghorau Tref a Chymuned, Mentrau Cymunedol, Cymdeithasau Twristiaeth, Mudiadau Gwirfoddol â Chyfansoddiad, a’r Awdurdod Lleol.
Bydd tri maes blaenoriaeth allweddol ar gyfer datblygu trwy’r Cynllun Croeso Cymuned:-
- Gwella gwybodaeth i ymwelwyr
- Ymchwil y Farchnad ar ymwelwyr ac Asesu Bodlonrwydd
- Gwella Seilwaith Twristiaeth
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r math o brosiectau a allai fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn:
- Mannau gwybodaeth, paneli dehongli, gwefannau i ymwelwyr a reolir gan y gymuned, TGCh a phrosiectau cyfryngau newydd.
- Holiaduron ymwelwyr, grwpiau ffocws, cyfweliadau wyneb yn wyneb a syniadau arloesol eraill ar gyfer casglu a dadansoddi gwybodaeth gan ymwelwyr am lefelau bodlonrwydd.
- Datblygu safleoedd treftadaeth bychain, tirlunio sy’n canolbwyntio ar dwristiaeth, datblygu a gwella llwybrau cerdded lleol, llwybrau ceffyl a llwybrau seiclo, arwyddion lleol, arwyddbyst i gerddwyr.
Ymgeiswyr am y Prosiect
Bwriad y Cynllun Grant bychan Croeso Cymuned yw helpu cymunedau gwledig ar draws Powys, trwy dynnu sylw at fusnesau lleol, atyniadau a gweithgareddau. Yn ei dro, bydd hyn yn ysgogi’r economi lleol. Gwahoddiad ceisiadau i’r prosiect gan unrhyw gymuned sydd â chyfansoddiad neu grwpiau gwirfoddol ym Mhowys.
Cyllideb y Prosiect
Mae’r prosiect Croeso Cymuned wedi derbyn nawdd o Ł423,000, gyda Ł300,000 ohono’n cael ei ddosbarthu i gymunedau trwy’r cynllun grant dirprwyedig. Bydd pob prosiect llwyddiannus yn derbyn nawdd o 80% tuag at gyfanswm costau’r prosiect, gydag uchafswm o Ł10,000 ar gyfer prosiectau cyfalaf a Ł5,000 ar gyfer prosiectau refeniw. Yr ymgeiswyr fydd yn gyfrifol am yr 20% sy’n weddill, ac ni ddylai fod yn gymorth mewn nwyddau neu’n amser gwirfoddolwyr, na dod o ffynonellau Ewropeaidd eraill.
Sut i ymgeisio
Dylid trefnu ymweliad safle yn gyntaf i drefnu syniad y prosiect gyda’r swyddog cynllun grant cyn cyflwyno’r cais am nawdd. Gellir cyflwyno cais unrhyw bryd, ond rhaid gorffen y prosiectau o fewn 6 mis o’r dyddiad cymeradwyo. Bydd y swyddog prosiect yn rhoi ffurflen gais a chyfarwyddiadau yn ystod y cyfarfod safle (os yw’n gymwys am nawdd). Bydd pwyllgor ymgynghorol annibynnol yn cael ei sefydlu i gymeradwyo neu wrthod pob cais.

- Cyflenwr y Prosiect: Powys County Council Tourism Services
- Cyfeiriad: Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Brecon, Powys, LD3 7HR
- Julie Lewis
- Cyfeiriad Ebost: community.tourism@powys.gov.uk
- Rhif Ffôn: 01874 612275
- Gwefan: www.powys.gov.uk


