English
Chwillo

A oes gennych chi syniad am gynnyrch gwyllt neu wasanaeth gwyrdd ym Mhowys?

Ydych chi'n berchen ar ychydig o dir mawn yr hoffech ei adfer?

Mae Gwyllt a Gwyrdd yn anelu at hyrwyddo twf economaidd, cynaliadwy ym Mhowys drwy ddatblygu ystod o nwyddau a gwasanaethau ecolegol. Yn fwy penodol, bydd y prosiect yn cynnig cymorth ar gyfer ymchwil a datblygu cynhyrchion arloesol sy’n ychwanegu gwerth. Cyflawnir hyn drwy gydlynu, ymchwil a datblygu cynhyrchion a marchnata a hyrwyddo ar gyfer syniadau sy’n gwella bioamrywiaeth lleol, tirluniau a’r dreftadaeth naturiol ac yn helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd.

Gallai cyfleoedd gynnwys: harneisio cnydau traddodiadol sydd wedi eu hanghofio neu eu rhoi o’r neilltu o adnoddau naturiol confensiynol (porfa, coedlannau ac ati).

Gall cynhyrchion o’r fath fod yn gwbl newydd, neu gallant fod yn ailddarganfod defnyddiau hanesyddol i gynhyrchion gwyllt, er enghraifft:

  • Roedd dail ysgaw yn cael eu defnyddio i gadw pryfed draw yn y cartref
  • Rhisgl ffibraidd llwyfen ar gyfer cortyn a rhaffau
  • Rhisgl ceirios gwyllt a danadl poethion i drin ceffylau
  • Tecstilau wedi eu gwneud o ffibrau danadl poethion

Ymgeiswyr am y Prosiect

Unigolion, busnesau a grwpiau gwirfoddol/cymunedol a mentrau cymdeithasol hyd at raddfa mentrau micro (hyd at 10 o weithwyr). Yn fwy penodol, darparu cymorth a hyrwyddo syniadau am brosiectau cynaliadwy gan gynnwys:

  • Helpu gyda marchnata cynhyrchion naturiol, gwyllt neu wyrdd ar gyfer busnesau sy’n bodoli’n barod.
  • Ymchwil a datblygu i echdynion naturiol o blanhigion, ffyngau ac ati
  • Y rhai hynny sy’n anelu at ychwanegu gwerth at gynhaeaf gwyllt a deunyddiau cynaliadwy lleol

Cyllideb y Prosiect

Cyllid y prosiect £30,355 (£19,223 fel arian parod; £11,122 o arian cyfatebol).

Felly bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu / rhoi cyfran o arian cyfatebol hyd at gyfran o gyfanswm costau’r prosiect. Penderfynir ar lefelau’r cyfraniadau o arian cyfatebol ar sail unigol, ond fel arfer byddant oddeutu 35-40%. Gall cyfraniadau arian cyfatebol fod fel arian parod neu fel cyfraniad mewn da o adnoddau eraill buddiolwyr (e.e. amser gwirfoddolwyr). Ond rhaid i gyfanswm costau’r prosiect gael ei gefnogi’n llawn gan dystiolaeth gydnabyddedig (derbynebau, amserlenni ac ati).

Sut i ymgeisio

  1. Ymholiad dechreuol a thrafodaeth rhwng yr ymgeisydd a’r swyddog prosiect;
  2. Cwblhau a chyflwyno argymhelliad y prosiect/ffurflen gais gan yr ymgeisydd;
  3. Asesiad rhagarweiniol o’r cais gan y Swyddog Prosiect/Rheolwr Glasu;
  4. Y prosiect yn cael ei gyflwyno i a’i asesu gan Grŵp Gweithredu Lleol Glasu (bwrdd llywodraethu) yn chwarterol yn dechrau yn Rhagfyr 08.
 
©2012 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Glasu LogoPowys Regeneration Partnership LogoPowys County Council LogoCountryside Council for Wales LogoEU LogoWelsh Government Logo