English
Chwillo

Wrth graidd y prosiect bydd tair tref a byddai pob un ohonynt yn gosod generadur ynni adnewyddadwy a fyddai yn cael ei weithredu gan y gymuned ac a fyddai yn eiddo i’r gymuned. Nodwyd y tri anheddiad hynny (Talgarth, Rhaeadr Gwy a Llanidloes) ac mae’r tri ar hyn o bryd yn paratoi cynlluniau ynni dwr.

Bydd y gosodiad Ynni Adnewyddadwy craidd yn darparu ffocws ar gyfer gweithgaredd dechreuol ac ymgysylltu â’r gymuned gyfan. Bydd yn creu synnwyr o falchder ac yn gatalydd ar gyfer gweithredu pellach i gwtogi ar ollyngiadau carbon, cwtogi ar dlodi tanwydd a chwtogi ar orbenion busnes, boed hynny drwy gyfrwng mesurau i drin ynni’n effeithlon neu fwy o osodiadau ynni adnewyddadwy. Byddai incwm o’r gosodiad Ynni Adnewyddadwy dechreuol yn cael ei ailgylchu i’r gweithgaredd hwn yn debyg i’r hyn a gyflawnwyd yn Nhalybont ar Wysg.

Bydd y rhan honno o’r prosiect a gyllidir drwy’r rhaglen hon yn dod i benllanw gyda chynhadledd a fydd yn agored i bawb, ond a anelir yn bennaf at gymunedau Powys. Bydd y gynhadledd yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu profiad, gwybodaeth ac angerdd yn deillio o’r prosiect hwn yn ogystal â phrosiectau rhagflaenwyr yn y maes hwn, Ecodyfi ac Ynni Talybont.

Ymgeiswyr am y Prosiect

Nid oes unrhyw gynllun grant y gall ymgeiswyr newydd wneud cais iddo ond y bwriad yw ymgysylltu â chymunedau Talgarth, Rhaeadr Gwy a Llanidloes i geisio cwtogi ar ollyngiadau carbon. Datblygir gweithgareddau yn lleol.

Cyllideb y Prosiect

Nid oes unrhyw gynllun grant y gall ymgeiswyr newydd wneud cais iddo.

Sut i ymgeisio

Ddim yn gymwys

  • Cyflenwr y Prosiect: Severn Wye Energy Agency
  • Cyfeiriad: Entrance A, Royal Welsh Showground, Builth Wells, Powys, LD2 3NJ
  • Cyfeiriad Ebost: andy@swea.co.uk
  • Rhif Ffôn: 01982 551006
  • Gwefan: http://www.swea.co.uk/
 
©2010 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Cyngor Sir Powys County CouncilEU and Welsh Assembly Government Funded