English
Chwillo

Mae Cyfle i Greu yn gynllun grant dirprwyedig y bwriedir iddo gefnogi prosiectau newydd ac arloesol yn y celfyddydau neu ddiwydiannau creadigol gyda ffocws masnachol neu fusnes. Yn ychwanegol, mae Cyfle i Greu yn anelu at gefnogi prosiectau a all arddangos budd cymunedol ychwanegol drwy ysgogi gweithgaredd diwylliannol ac economaidd lleol ehangach.

Mae’r cynllun hwn yn cynnig cymorth grant cyfalaf a refeniw i brosiectau arloesol sy’n cysylltu creadigedd a masnach h.y. prosiectau sy’n seiliedig ar y diwydiannau creadigol neu gelfyddydau gyda ffocws busnes.

Rhaid i brosiectau cymwys fod o natur ddiwylliannol neu fod yn ymwneud â’r celfyddydau. Mae hyn yn cynnwys celfyddydau gweledol, celfyddydau perfformio, cerdd, llenyddiaeth, crefftau a chelf gymhwysol, dylunio, ffilm, cyfryngau newydd a phensaernïaeth.

Mae ystod y prosiectau a allai gael eu cefnogi gan y cynllun yn eang. Mae’r canlynol yn ddim ond ychydig o enghreifftiau o’r math o brosiectau a allai fod yn gymwys am gymorth o dan y grant hwn.

Nodwch fod yn rhaid i brosiectau cymwys fod yn seiliedig ar y celfyddydau neu’r diwydiant creadigol.

  • Datblygu a/neu weithgynhyrchu cynhyrchion newydd
  • Digwyddiadau newydd neu elfennau newydd o ddigwyddiadau sy’n bodoli’n barod
  • Ymchwil marchnad, datblygu marchnata, treialon marchnata e.e. gwefannau neu ddefnyddio cyfryngau newydd
  • Datblygu prosiectau dehongli o safbwynt diwylliannol
  • Gwaith arbrofol
  • Bwrsariaethau
  • Prentisiaethau
  • Lleoliadau busnes/ymchwil
  • Arallgyfeirio busnes i faes y celfyddydau e.e. gwesty yn datblygu oriel neu fferm agored yn cynnal arddangosfa gan artist preswyl
  • Prosiectau TGCh a chyfryngau newydd gyda ffocws creadigol e.e. cynhyrchu a dosbarthu cerddoriaeth neu ffilm ar y we
  • Recordio deunydd newydd i’w werthu

Ymgeiswyr am y Prosiect

Mae’r cynllun grant hwn ar agor i unigolion, micro-fentrau a busnesau a sefydliadau yn y sector gwirfoddol.

Cyllideb y Prosiect

Cyllideb gyffredinol y prosiect yw £476,814 gyda £240,000 fel taliadau grant uniongyrchol a £30,000 tuag at gostau mentora prosiectau. Gall y grant gynnig hyd at 80% o’r costau cymwys ar gyfer unrhyw un prosiect. Rhaid i’r isafswm o 20% sydd ar ôl dderbyn arian cyfatebol gan y sefydliad neu o ffynhonnell gyllido arall heb fod yn un Ewropeaidd.

Isafswm y grant y gallwch ymgeisio amdano yw £500.

Gosodir uchafswm o £10,000 o grant ar gyfer pob prosiect

Gall cyllid cyfatebol fod ‘mewn da’, fel defnyddio eich stiwdio, lleoliad neu eich offer eich hun

Sut i ymgeisio

Gall ceisiadau gael eu cyflwyno i ni mewn rhaglen dreigl unrhyw bryd o ddiwedd Medi 2008 tuag at asesiad yn yr asesiad prosiect chwarterol nesaf a chyfarfod y Panel Ymgynghorol. Gosodir y dyddiadau hyn ar ddechrau’r prosiect.

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau fydd 31 Gorffennaf 2010 (yn dibynnu ar argaeledd y cyllid ac ar hyd y prosiect arfaethedig). Rhaid i’r prosiectau i gyd gael eu cwblhau’n llawn, rhaid i werthusiadau gael eu cyflwyno a rhaid i’r holl gyllid gael ei dynnu i lawr erbyn 28 Chwefror 2011.

  • Cyflenwr y Prosiect: PCC Arts Development Service & Powys Arts Forum
  • Cyfeiriad: St Johns Offices, Fiveways, Llandrindod Wells, Powys, LD15ES
  • Cyfeiriad Ebost: chancetocreate@powys.gov.uk
  • Rhif Ffôn: 01597 827661
  • Gwefan:
 
©2010 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Cyngor Sir Powys County CouncilEU and Welsh Assembly Government Funded