English
Chwillo

Bydd y prosiect hwn yn cefnogi datblygiadau arloesol mewn cyflenwad, galw a chynaliadwyedd ar gyfer busnesau micro (heb fod yn rhai amaethyddol) yn y meysydd allweddol canlynol:

  • Bwyd Trawsnewidiol – rhoi cefnogaeth i fusnesau micro ar gyfer ymchwil, arloesedd a rhannu arfer gorau i helpu i ateb yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgîl newid hinsawdd ac olew wedi iddo gyrraedd ei frig
  • Mynediad at Fwyd Lleol – hyrwyddo marchnadoedd a dulliau newydd ar gyfer busnesau bwyd micro er mwyn cynyddu mynediad gwledig at fwyd ffres, iach ac a gynhyrchir yn lleol.
  • Bwydlenni Powys – cefnogi gweithgareddau arloesol i hyrwyddo cynhyrchion lleol i’r gwasanaeth bwyd, croeso, arlwyo ar gyfer cynadleddau a’r sectorau cyhoeddus, er mwyn cyrchu at farchnadoedd newydd a gwella’r bwyd lleol sy’n cael ei gynnig ar fwydlenni.
  • Mentrau Bwyd Arloesol – datblygu gallu, ymchwilio i ymarferoldeb cyfleoedd a chefnogi modelau busnes micro newydd gan grwpiau cymunedol i gael mynediad i’r sector bwyd ym Mhowys.
  • Atebion Bwyd Arloesol – annog busnesau micro i chwilio am atebion cynaliadwy newydd i ychwanegu gwerth a defnyddio cynhyrchion ac adnoddau bwyd Powys

Ymgeiswyr am y Prosiect

  • Mentrau micro sy’n bodoli ar hyn o bryd ac sy’n dechrau (gyda rhwng 1 a 10 o weithwyr) yn y sector bwyd, gan gynnwys teuluoedd ffermio sydd wedi arallgyfeirio ac sy’n cynhyrchu cynnyrch gyda gwerth ychwanegol
  • Merched
  • Pobl ifanc
  • Rhai dros 50
  • Cymunedau sy’n siarad Cymraeg

Cyllideb y Prosiect

Cyfanswm cyllid y prosiect £163,000 (£127,154 fel arian parod; £35,846 o arian cyfatebol).

Felly bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu / rhoi cyfran o arian cyfatebol hyd at gyfran o gyfanswm costau’r prosiect. Penderfynir ar lefelau’r cyfraniadau o arian cyfatebol ar sail unigol, ond fel arfer byddant oddeutu 30%. Gall cyfraniadau o arian cyfatebol fod fel arian parod (e.e. treuliau y talwyd amdanynt eu hunain) neu fel cyfraniad mewn da (e.e. amser gwirfoddolwyr). Ond rhaid i gyfanswm costau’r prosiect gael ei gefnogi’n llawn gan dystiolaeth gydnabyddedig (derbynebau, amserlenni ac ati).

Sut i ymgeisio

  1. Ymholiad dechreuol a thrafodaeth rhwng yr ymgeisydd a’r swyddog prosiect;
  2. Cwblhau a chyflwyno argymhelliad y prosiect/ffurflen gais gan yr ymgeisydd;
  3. Asesiad rhagarweiniol o’r cais gan y Swyddog Prosiect/Rheolwr Glasu;
  4. Y prosiect yn cael ei gyflwyno i a’i asesu gan Grwp Gweithredu Lleol Glasu (bwrdd llywodraethu) yn chwarterol yn dechrau yn Rhagfyr 08.
 
©2012 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Glasu LogoPowys Regeneration Partnership LogoPowys County Council LogoCountryside Council for Wales LogoEU LogoWelsh Government Logo