English
Chwillo

Bydd prosiect Taste of Powys/Blas ar Bowys yn darparu cymorth wedi ei deilwrio, cyngor a marchnata generig ar gyfer busnesau bwyd micro newydd a rhai sy’n bodoli’n barod (rhai heb fod yn amaethyddol) ym Mhowys.  Bydd y prosiect yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i fusnesau bwyd micro ym Mhowys fynd i mewn i, goroesi a ffynnu mewn sector hynod gystadleuol.
Bydd elfennau i gyflenwi’r prosiect hwn yn cynnwys:

  • Gwefan cyfarwyddiadur bwyd dwyieithog Powys a chynlluniau cysylltiedig i hyrwyddo’r gwaith
  • Gwybodaeth am y farchnad ac ymchwil i gyfleoedd busnes ar gyfer micro fusnesau
  • Cymorth ar gyfer marchnata cydweithredol a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth
  • Dull o hwyluso rhwydweithiau busnes a rhannu gwybodaeth drwy ddigwyddiadau anffurfiol a ffurfiol a’r defnydd o systemau TGCh

Ymgeiswyr am y Prosiect

  • Mentrau micro sy’n bodoli’n barod a rhai sy’n dechrau o’r newydd (gyda rhwng 1 a 10 o weithwyr) yn y sector bwyd, gan gynnwys teuluoedd ffermio sydd wedi arallgyfeirio sy’n cynhyrchu cynnyrch gyda gwerth ychwanegol
  • Merched
  • Pobl ifanc
  • Rhai dros 50 oed
  • Cymunedau sy’n siarad Cymraeg

Cyllideb y Prosiect

Cyfanswm cyllideb y prosiect £146,377 (£111,920 fel arian parod; £34,457 fel arian cyfatebol gan y sawl sy’n ei dderbyn).

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu cyfran o gyfanswm costau’r prosiect.  Penderfynir ar lefelau gwirioneddol y cyfraniadau o arian cyfatebol fesul prosiect, ond byddant fel arfer oddeutu 30%.  Gall cyfraniadau o arian cyfatebol fod fel arian (e.e. treuliau y telir amdanynt eu hunain) neu fel cyfraniad mewn da (e.e. amser gwirfoddolwyr).  Ond rhaid i gyfanswm costau’r prosiect gael ei gefnogi’n llawn gan dystiolaeth gydnabyddedig (gan gynnwys derbynebau, taflenni amser ac ati).

Sut i ymgeisio

  1. Ymholiad dechreuol a thrafodaeth rhwng yr ymgeisydd a’r swyddog prosiect;
  2. Cwblhau a chyflwyno argymhelliad y prosiect/ffurflen gais gan yr ymgeisydd;
  3. Asesiad rhagarweiniol o’r cais gan y swyddog prosiect/rheolwr Glasu;
  4. Cyflwyno ac asesu argymhellion gan Grŵp Gweithredu Lleol Glasu (Bwrdd Llywodraethu) yn chwarterol, gan ddechrau ym mis Rhagfyr 08.
 
©2010 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Cyngor Sir Powys County CouncilEU and Welsh Assembly Government Funded