Hybu Eich Busnes
Wed 07 November 2010
Cynhelir digwyddiadau am ddim i sefydliadau sy’n dymuno hybu eu busnes gyda Thechnoleg Gwybodaeth.
Bydd y sesiynau yn edrych ar sut y gall gwefannau effeithiol, e-farchnata a systemau busnes effeithiol helpu sefydliadau i barhau yn gystadleuol ac ennill busnes newydd. Bydd gwybodaeth ar gael hefyd am grantiau i ddatblygu a gweithredu systemau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).
Trefnwyd y digwyddiadau fel rhan o brosiect Cysylltiadau Powys – rhaglen a gyflenwir gan Gyngor Sir Powys i roi cyngor ynglŷn â TG a chefnogaeth i fusnesau lleol a mentrau cymdeithasol. Mae’r rhaglen yn cael ei chyllido’n rhannol drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013 a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cynhelir y digwyddiadau ‘Hybu Eich Busnes gyda TGCh’ ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Llun 17 Tachwedd, Gwesty’r Royal Oak y Trallwng 6.30-8.30pm
Dydd Mawrth 18 Tachwedd, Gwesty’r Wynnstay, Machynlleth 6.30-8.30pm
Dydd Llun 24 Tachwedd, Gwesty’r Swan, Y Gelli Gandryll 6.30-8.30pm
Dydd Mawrth 25 Tachwedd, Y Pafiliwn, Llandrindod 6.30-8.30pm
Dydd Mercher 26 Tachwedd, Y Ganolfan Croeso, Aberhonddu 1.30-3.30pm
I gael mwy o wybodaeth neu i archebu eich lle ymwelwch â www.insynchbusiness.co.uk/boost neu ffoniwch 01938 557637


