Cymunedau ym Mhowys i Dderbyn Hwb o £4 miliwn
Thu 07 November 2010
Mae miliynnau o bunnau yn mynd i gael eu pwmpio i economi Powys i helpu i hybu cymunedau gwledig. Bydd hyd at £4 miliwn o gyllid Ewropeaidd yn helpu i hybu twristiaeth, diwylliant a threftadaeth y rhanbarth.
Cyhoeddodd Cyngor Sir Powys y byddai’r arain yn hybu pethau fel twristiaeth werdd, egni cynaliadwy, busnesau gweithgynhyrchu lleol a bwyd.
Daw’r arian o Gronfa Amaethyddol ar gyfer Datblygiad Gwledig Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Meddai John Stephenson, Cadeirydd Partneriaeth Adfywio Powys: “Mae hwn yn swm sylweddol o arian ychwanegol a ddisgwyliaf fydd yn cael effaith wirioneddol o fewn y sir.”
“Mae gan Bowys rai prosiectau cyffrous iawn a fydd yn cefnogi busnesau lleol ac yn helpu i wella ansawdd bywyd pawb yn ein cymunedau”.
Dywedodd y byddai’r arian yn mynd tuag at gynnal gwyliau a digwyddiadau ym Mhowys a rhoi cymorth i grwpiau lleol sy’n dymuno cynnal digwyddiad sy’n gwella agwedd twristaidd eu cymuned.
Bydd cymunedau Carbon Isel fel Rhaeadr a Llanidloes, dwy dref sy’n cynllunio cynlluniau pŵer hydro ar hyn o bryd, yn elwa o’r cyllid hefyd.
Mae Powys yn un o’r 18 o bartneriaethau lleol ar draws Cymru sydd wedi paratoi rhaglenni o fewn y Cynllun Datblygu Gwledig.
Cyflenwir y prosiect gan sefydliadau fel Glasu a gyflenwodd LEADER+, CMGP (PAVO), Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, Powys Ddi-wastraff, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru a Chyngor Sir Powys ei hun.
I gael manylion am y prosiectau cysylltwch â Lee Price ar (01982) 552224.
Dyddiad: 11 Tachwedd 2008


