English
Chwillo

Amdanom Ni

Pwrpas Partneriaeth Adfywio Powys (PAP) yw:

  • Sicrhau agwedd wedi ei chydlynu ac integredig at adfywio economaidd a chymunedol ym Mhowys yn seiliedig ar weithio drwy bartneriaeth ymarferol rhwng sefydliadau preifat, gwirfoddol, cymunedol a rhai yn y sector cyhoeddus.
  • Bod yn gyfrifol am reolaeth strategol y Cynllun Datblygu Gwledig ym Mhowys gan oruchwylio gweithredu’r rhaglen hon.
  • Bod yn gyfrifol am reolaeth strategol Rhaglenni’r Gronfa Strwythurol ym Mhowys a gweithredu fel corff gweithredol  Partneriaeth Adfywio Powys ehangach i oruchwylio’r gwaith o weithredu’r rhaglenni hyn.
  • Cydlynu pa bynnag weithgareddau a/neu raglenni economaidd a chymunedol eraill ar draws y sir y mae’r Bartneriaeth wedi eu cymeradwyo.

Sefydlwyd Partneriaeth Adfywio Powys yn 2000 i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu, rheoli a gweithredu’r rhaglenni Amcan 2 ac Amcan 3 cyfredol ym Mhowys.

Dyma’r unig bartneriaeth sy’n ymdrin â Phowys yn unig sydd â ffocws penodol ar faterion economaidd ac adfywio.  Partneriaeth Adfywio Powys hefyd yw’r brif bartneriaeth ar gyfer thema economaidd Strategaeth Gymunedol Powys.

Mae gan Bartneriaeth Adfywio Powys bellach rôl ganolog yn y gwaith o reoli a chyflenwi elfennau o’r Cynllun Datblygu Gwledig yn y sir ac mae hefyd yn goruchwylio’r Rhaglen Gweithredu dros Gymunedau Gwledig – GMC/ACE – Gweithredu i greu Menter Gymunedol.

Dyma’r swyddogion allweddol:

Cadeirydd

Cllr Wynne Jones                                                                                                                                                      Whym, Abermule, Montgomery, Powys, SY15 6JJ
Ffon: 01686 630655
E-Bost: cllr.wynne.jones@powys.gov.uk

Is-Gadeirydd

Mr John Phillips
7 Penybryn, Builth Wells, Powys, LD2 3LF
Ffon: 01982 553675

Is-Gadeirydd

Mr Phillip Freeman
Swn y Coed, Llandinam, Powys, SY15 5DJ
Ffon: 01686 688 102
E-Bost: pk.freeman@tiscali.co.uk / admin@powysartsforum.org.uk

Aelodaeth Partneriaeth Adfywio Powys

Seilir Partneriaeth Adfywio Powys ar 18 o aelodau llawn gydag 18 o aelodau eiledol yn seiliedig ar yr egwyddor ganlynol:

  • 6 o aelodau o’r sector preifat a 6 eiledol
  • 6 aelod o’r sector cyhoeddus a 6 eiledol
  • 3 aelod o’r sector gwirfoddol a 3 eiledol
  • 3 aelod o’r sector cymunedol a 3 eiledol

Sector Preifat

Partneriarth Twristiaeth Canolbarth Cymru
Twristiaeth Canolbarth Cymru
Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru
Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru
Undeb Amaethwyr Cymru
Ffedeasiwn Busnesau Bach

Sector Cyhoeddus

Cyngor Sir Powys
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Glasu
Coleg Powys 
Bwrdd Iechyd Lleol Powys
Un Llais Cymru 

Sector Gwirfoddol

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys
Mynediad at Wasanaeth
Swydd Wag
 

Sector Cymunedol

Fforwm Celfyddydau Powys
Cylch
Undeb Credyd

 
 
©2012 Powys Regeneration Partnership. All Rights Reserved.
Website Design: Trimast Systems Limited
Glasu LogoPowys Regeneration Partnership LogoPowys County Council LogoCountryside Council for Wales LogoEU LogoWelsh Government Logo