Sefydlwyd Partneriaeth Adfywio Powys yn 2000 i oruchwylio datblygu, rheoli a gweithredu rhaglenni cyfredol Amcan 2 ac Amcan 3 ym Mhowys.
Dyma’r unig bartneriaeth sy’n ymdrin â Phowys yn unig sydd â ffocws penodol ar faterion economaidd ac adfywio. Partneriaeth Adfywio Powys hefyd yw’r brif bartneriaeth ar gyfer thema economaidd Strategaeth Gymunedol Powys.
Mae gan Bartneriaeth Adfywio Powys bellach rôl ganolog yn y gwaith o reoli a chyflenwi elfennau o’r Cynllun Datblygu Gwledig yn y sir ac mae hefyd yn goruchwylio’r Rhaglen Gweithredu dros Gymunedau Gwledig – GMC/ACE – Gweithredu i greu Menter Gymunedol.


